Dewi Prysor

Brithyll, Madarch a Crawia

Ar ol i Dewi Prysor ysgrifennu’r tri llyfr hwn, all neb honni nad oes llyfrau doniol yn Gymraeg. Mae’r triawd o lyfrau’n dilyn cymeriadau hoffus ac amrywiol ar eu hynt a helynt yng Ngogledd Cymru. Mae hyn yn cynnwys gwrthryfela’n erbyn yr heddlu, digon o bartion, rhyw ac ymladd, a does dim diffyg o alcohol a chyffuriau. Efallai nad yw’r cyfuniad yma’n gweiddi ‘prynwch e!’ i ddarllenwyr brwd, a fydd yr iaith a dull ysgrifennu gogleddol ddim yn apelio i bawb chwaith. Wedi dweud hyn, gwae ichi ffurfio rhagdybiadau negyddol amdanynt – mae Prysor yn awdur crefftus sy’n eich cael chi’n chwerthin bob yn ail dudalen, a meddwl yn hir ar ol eu rhoi i lawr.

Gan James Eul

Gadael sylw